Trystan Lea

Beth fysa Gwynedd di garbon yn edrych fel?

Published: 1st June, 2023

Diweddarwyd 17 Awst i adlewyrchu rhifau Cymru gyfan gwell

This page is also available in English.

Mae'r canlynol yn ceisio ateb y cwestiwn hwn drwy edrych ar Gwynedd yng nghyd-destun y senario Prydain Ddi-Garbon a ddatblygwyd gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth. Mae'n edrych ar defnydd ynni Gwynedd heddiw, faint sydd yn dod o ffynhonnellau di-garbon hyd yn hyn, a faint bydd angen adeiladu ynai yma yn Gwynedd neu ar raddfa fwy eang ar gyfer cyflewni anghenion ynni Gwynedd mewn dyfodol di-garbon

glaslyn

Mae’r dadansoddiad yma yn seiliedig ar y tri thabl data isod:

Ynni a carbon yn Gwynedd heddiw

Allyriadau NTG 1,093,000 tCO2e [1]
Trydan 532 GWh [2] (244 GWh domestic, ~3800 kWh/aelwyd), 35% o ynni adnewyddadwy Gwynedd *
Nwy 530 GWh (364 GWh domestig) [2]
Olew 1551 GWh (262 GWh gwres domestig, 1149 GWh trafnidiaeth) [2]
Glo 65 GWh (43 GWh gwres domestig) [2]
Bio-ynni 118 GWh (49 GWh gwres domestig) [2]
Cyfanswm ynni terfynol 2796 GWh/yr [2]
Cyfanswm ynni cynradd 3808 GWh/yr *

* Mae cyflenwad trydan ar sail cyfartaledd cenedlaethol ar hyn o bryd tua 21% o wynt, solar a hydro, 19% o niwclear, 11% o fio-ynni (a tua hanner o llosgi pren yn drax). Gorsafoedd pŵer nwy yw'r 49% sy'n weddill yn bennaf, a ychydig o olew a glo.

* Amcangyfrif ynni cynradd yn seiliedig ar ffactor 1.36x rhwng ffigurau ynni cynradd a therfynol cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys colledion gorsafoedd pŵer thermol, colledion grid, colledion trawsnewid eraill a defnydd y diwydiant ynni ei hun [3].

Mae'r ffigurau yma yn rhoi syniad i ni o faint o ynni da ni'n ddefnyddio heddiw, mae'r union ffigurau ac unedau yn llai pwysig na'r gwahaniaeth wrth i ni edrych as gwahanol senarios ddi garbon. Da ni'n defnyddio llawer o ynni heddiw, gallwn arbed llawer o ynni trwy newid i dechnoleg fwy effeithlon fel pympiau gwres a cherbydau trydan. Mae 35% o'n defnydd trydan yn cael ei gynhyrchu gan ynni adnewyddadwy lleol yng Ngwynedd, ond dim ond 20% o'r galw terfynol am ynni yw trydan.

Galw am ynni mewn senario SeroCarbonGwynedd yn y dyfodol

Mae’r canlynol yn seiliedig ar ein siar (yn ôl nifer o dai) o’r senario cenedlaethol ZeroCarbonBritain [2], wedi'i fodelu gan ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored ZeroCarbonBritain.

ZCB [3]
Goleuo, Offer a Choginio 206 GWh/yr (Offer mwy effeithlon)
Gwres Gofod a Dŵr, y galw am danwydd 237 GWh/yr (Retrofit & phympiau gwres)
Trafnidiaeth 288 GWh/yr (Trydaneiddio a sifftiau moddol)
Diwydiant 530 GWh/yr (Wedi'i gynyddu gan 'onshoring' a thwf economaidd)
Cyfanswm ynni terfynol 1261 GWh/yr
Colledion a trawsnewid 419 GWh/yr
Gormodedd / cwtogiad 268 GWh/yr
Cyfanswm ynni cynradd 1948 GWh/yr
Cyflenwad trydan adnewyddadwy 1434 GWh/yr
Cyflenwad bio-ynni 440 GWh/yr
Geothermol a solar thermol 74 GWh/yr

Fel rhan fwyaf o senarios ynni, mae ZeroCarbonBritain yn gyfuniad o newidiadau ar ochr defnydd ac ochr gyflenwi ynni. Mae’n cynnwys trydaneiddio gwres a thrafnidiaeth ddaear bron yn llawn, er mwyn gwneud defnydd effeithlon o drydan di-garbon. Mae hefyd yn arbennig o uchelgeisiol o gymharu â senarios eraill o ran lleihau defnydd ynni gydag 'retrofit' adeiladau a newid ymddygiad yn darn mawr or senario, mae hyn yn cynnwys:

Mae cyfanswm defnydd ynni cynradd wedi ei lleihau bron i 50% ai gymharu â’n defnydd ynni heddiw.

Mae senarios eraill fel y senario 100% Renewable UK diweddar yn llawer llai uchelgeisiol o ran lleihau galw ac yn adeiladu mwy o gyflenwad yn lle. Mae ZeroCarbonBritain hefyd yn dewis cyflewni cyfran gymharol fawr (23%) o ynni biomas, mae hyn yn defnyddio 18% o arwynebedd tir y Prydain. Efallai y byddai’n well adeiladu mwy o ynni gwynt, solar a seilwaith 'e-fuels power-to-gas' (gydag ailgylchu carbon neu technoleg DAC) er mwyn ryddhau mwy o dir ar gyfer bioamrywiaeth.

Yn defnyddio meddalwedd senario ZeroCarbonBritain, bydd senario defnydd uwch, biomas isel, sy’n adlewyrchu lefelau 2018 o filltiroedd car ac awyr, a heb gostyngiad mewn defnydd ar gyfer gwresogi, angen cyflenwad ynni cynradd o ~2620 GWh y flwyddyn a galw terfynol am ynni o ~1750 GWh y flwyddyn. Mae'r cyflenwad trydan yn cynyddu o 1434 GWh y flwyddyn yn y senario sylfaenol i ~2560 GWh/yr. Mae hyn yn lefel defnydd tebyg i'r senario 100% Renewable UK (siar gyfrannol Gwynedd).

Cynnydd Trydaneiddio

Er bod trydaneiddio gwres, trafnidiaeth a diwydiant yn rhannau pwysig o'r senarios ZeroCarbonBritain a 100% Renewable UK, da ni dim ond ar cychwyn y taith hyd yn hyn.

Today ZCB
Electrification of heat with heat pumps 553 projects, 6.0 MW thermal, ~1% ~40,000-60,000 projects, 90%
Electrification of transport ~2% 90%

Ynni Adnewyddadwy yng Ngwynedd heddiw yn erbyn senario SeroCarbonGwynedd yn y dyfodol

Current (2021) ZCB [3] Progress
Renewable Electricity 186.2 GWh/yr 1434 GWh/yr 13%
Offshore Wind 0 MW 258 MW (975 GWh/yr) 0% (0%)
Onshore Wind 6.2 MW (12.8 GWh/yr) [4] 55 MW (141 GWh/yr) 11% (9%)
Solar PV 43 MW (36 GWh/yr) [4] 166 MW (137 GWh/yr) 26% (26%)
Tidal 0 37 MW (77 GWh/yr) 0% (0%)
Wave 0 18 MW (45 GWh/yr) 0% (0%)
Geo Thermal Electricity 0 5.5 MW (43.4 GWh/yr) 0% (0%)
Hydro 62.2 MW (135.4 GWh/yr) [4] 5.5 MW (14.5 GWh/yr) 1130% (933%)
Total biomass & waste 2.42 MW (2.0 GWh el/yr) [2] see biomass for biogas
Renewable Heat 48.7 GWh/yr 144 GWh/yr 34%
Geo Thermal Heat ? 3.7 MW (29 GWh/yr) 0% (0%)
Solar Thermal 168 projects, 0.5 MW thermal [6] 12.8 MW (45 GWh/yr) 4%
Biomass for direct heat 48.7 GWh/yr [2] 70 GWh/yr 70%
Renewable Fuels 54.2 GWh/yr 370 GWh/yr 15%
Biomass for biogas ~5 GWh/yr [5] 170 GWh/yr 3%
Biomass for liquid fuels 49.2 GWh/yr [2] 200 GWh/yr 25%

Mae angen seilwaith storio ychwanegol i ddarparu system ynni weithredol gyflawn sy'n cyfateb i'r galw am bob awr o bob dydd. Yn fras iawn, cyfran Gwynedd o ofynion storio cenedlaethol yn seiliedig ar fodel ZeroCarbonBritain fyddai: 370 MWh o storfa drydan effeithlonrwydd uchel, 50 MW o electrolysis, 40 GWh o storio hydrogen, 120 GWh o storfa e-methan, 120 MW o gapasiti tyrbinau nwy 'backup'. Ffigurau bras yw rhain i roi darlun mwy cyflawn o’r hyn y mae’r model yn awgrymu sydd ei angen [3]. Mae gennym wrth gwrs ddau pwerdu storio pwmp dŵr mawr: Dinorwig a Ffestiniog sydd hefo capasiti storio 10.5 GWh ac mae prosiect arall wedi ei cynnig Nglyn Rhonwy.

Mae'r siart a ganlyn yn dangos allbwn cynhyrchu hanesyddol diweddar ynni adnewyddadwy Gwynedd. Mae tuedd llinell yn awgrymu 465 GWh y flwyddyn o gynhyrchiad yn 2050 neu tua 32% o werth y senario ZeroCarbonBritain. Ar y gyfradd yma (+9.5 GWh/yr), byddan yn cymryd ~130 o flynyddoedd i gyrraedd 1434 GWh/yr neu 250 mlynedd i gyrraedd y senario defnydd uwch os mai'r nod oedd cwrdd â galw Gwynedd am ynni o fewn Gwynedd.

Beth yw'r nod? Lleol a cenedlaethol..
Mae nod o gyflenwi galw Gwynedd am ynni o ynni di-garbon o fewn ffin Gwynedd neu'n agos i'r môr ynddo'i hun yn nod a all fod yr un iawn neu beidio. Fel arfer mae'n well cymryd golwg ehangach.

Mae Cymru gyfan yn symud yn gyflymach gyda chyfradd adeiladu adnewyddadwy hanesyddol a fyddai’n awgrymu cyrraedd y targed ZeroCarbonBritain mewn ~68 mlynedd. Gyda'r pibell o brosiectau adnewyddadwy raddfa fawr sydd ar y gweill, ddylan cyrraedd y nod hyd yn oed yn gynt (Awel y mor, Mona/Morgan, Gwynt arnofio Môr Celtaidd & Morlais). Mae’n bosib y byddwn hyd yn oed yn cyrraedd 70-90% o’r targed senario defnydd is gydag ynni adnewyddadwy yn unig erbyn 2035, i fyny o 20% heddiw. Sydd yn gadael amser i gyrraedd 100% erbyn 2050. Ar gyfer senario defnydd is bydd angen o gwmpas ~7,200 GWh/yr o drydan ychwanegol tu hwnt i'r biblinell bresennol, neu ~25,500 GWh/yr ar gyfer y scenario defnydd ynni mwy uchel. A all Gwynedd gyfrannu at cyfarfod y galw hwn?

Oes posib cynhyrchu 1250 - 2400 GWh/yr o ynni ychwanegol yng Ngwynedd?

Mae'r canlynol yn rhoi syniad sut y gallwn cynhyrchu mwy o trydan di garbon yn Gwynedd. Os y nod yw unai cynhyrchu ein defnydd yma yn Gwynedd neu i gwneud cyfraniad sylweddol i gwrdd a angen Cymru mwy eang.

Risg o gyflawni’r nodau hyn

Gwrthwynebiad i ddatblygiad

Cyfyngiadau grid: Mae cyfyngiadau grid yn ffactor allweddol arall sy’n cyfyngu ar ddatblygiad prosiectau ar hyn o bryd e.e. Ynni Llyn a cynigion ar gyfer ynni gwynt môr ym mae Ceredigion a gwynt tir yng nghanolbarth Cymru. Mae'n amlwg y bydd angen rhywfaint o ddatrysiad i'r mater hwn os ydym am gyrraedd ein nodau di-garbon.

Opsiynau eraill

Niwclear: Mae Trawsfynydd wrth gwrs yn un o'r safleoedd sydd wedi ei cynnig ar gyfer SMR Niwclear Rolls Royce 440 MW, a fyddai, ar ffactor capasiti o 90%, yn cynhyrchu 3470 GWh y flwyddyn: 2.4x targed trydan adnewyddadwy ZCB neu 1.35x senario defnydd uwch. Ar sail Cymru gyfan byddai'r prosiect hwn yn mynd â ni o ~87% i 99% o'r scenario defnydd is, neu o ~53% i 61% o'r scenario defnydd uchel. Cyhoeddwyd adroddiad diweddar gan Ganolfan Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd fod niwclear yn perfformio'n dda ar nifer fawr o fetrigau dadansoddi cylch bywyd (LCA) gan gynnwys dwyster carbon tebyg i wynt [13].

Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch y tebygolrwydd y bydd prosiect Trawsfynydd yn cael ei adeiladu, o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i agor proses fwy cystadleuol, â gwthio'r penderfyniad buddsoddi terfynol yn ôl i 2029. Mae hyn yn awgrymu bod y dyddiadau cyflawni cynnar yn 2030 yn llai tebygol. Mae cwestiwn ynghylch sut y bydd y genhedlaeth nesaf o brosiectau niwclear yn troi allan o ystyried heriau’r gorffennol. Dylai prosiectau sydd i fod i cyflawni cyn 2030 yng Canada (BWRX-300) ac UDA (Nuscale) ddechrau rhoi arwydd cliriach.

Mae CCS yn opsiwn arall. Er ei fod yn llai tebygol o fod yn berthnasol yma yn Gwynedd, gall chwarae rhan mewn senario Cymru ehangach. Mae cynnig i adeiladu gwaith nwy naturiol CCS Allam-Fetvedt Cycle 350 MW yng Nglannau Tee sy'n seiliedig ar waith peilot sydd eisoes yn gweithio yn yr Unol Daleithiau [11]. Mae'r dechnoleg ei hun hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer senario 100% adnewyddadwy gan gallai gwella effeithlonrwydd system storio ynni am gyfnod hir gydag e-methan.

Mae problemau eraill gyda'r technolegau hyn, ac nid oes ganddynt yr hanes diweddar o adeiladu yn rheolaidd yn yr un ffordd ag y mae gwynt a solar. Sydd yn awgrymu pwyll wrth ddibynnu ar eu datblygiad ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae yna elfennau o senarios 100% RE sydd hefyd ar gam cynnar tebyg o ddatblygiad megis storio ynni am gyfnod hir gyda hydrogen neu e-methan.

Cwestiynau

Ffynonellau

  1. UK local authority and regional greenhouse gas emissions national statistics, 2005 to 2020
  2. Sub-national total final energy consumption data
  3. ZeroCarbonBritain hourly energy model and scenario tool
  4. Renewable electricity by local authority, 2014 to 2021
  5. Based on 2.0 GWh el/yr [3] and 40% conversion efficiency.
  6. Energy generation in Wales 2019
  7. Energy use in Wales
  8. https://www.thebmc.co.uk/hydropower-in-snowdonia-a-green-blessing-or-a-moneymaking-curse
  9. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-29879600
  10. https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/240ft-turbine-llyn-would-alien-2729722
  11. https://www.imeche.org/news/news-article/inside-the-plans-for-the-uk-s-first-net-zero-power-plant
  12. High demand primary energy estimate: 1312 TWh/yr national scenario modelled in ZCB tool × 55100 households 2018 ÷ 27600000 households 2018 = 2620 GWh/yr. 100% RE UK IAS scenario has primary renewable energy requirement at 1361 TWh/yr so in the same ball park.
  13. Technical assessment of nuclear energy with respect to the ‘do no significant harm’ criteria of Regulation (EU) 2020/852 (‘Taxonomy Regulation’)